Lleoliad:
Remote - Digital
Dyddiad: Dydd Mawrth, 21 Mehefin 2022
Amser:
09.02 -
09.58
------
|
Categori |
Enwau |
|
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd) Lesley Griffiths AS Siân Gwenllian AS Darren Millar AS |
|
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Yan Thomas (Dirprwy Glerc) |
|
Eraill yn bresennol |
Jane Dodds AS David Rees AS, Y Dirprwy Lywydd Siwan Davies, Clerc a Phrif Weithredwr Dros Dro Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth, Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
2 Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.
3 Trefn Busnes
3.1 Busnes yr wythnos hon
Dydd Mercher
3.2 Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn:
Dydd Mawrth 28 Mehefin -
· Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Cynllun Peilot Incwm Sylfaenol ar gyfer Pobl sy’n Gadael Gofal (30 munud) - aildrefnwyd
· Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Diogelwch Adeiladu (30 munud)
· Datganiad gan Weinidog yr Economi: Mesurau Rheoli Ffiniau (30 munud)
Dydd Mawrth 5 Gorffennaf -
· Datganiad gan y Prif Weinidog: Y Rhaglen Lywodraethu (60 munud)
· Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) (45 munud)
3.3 Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:
Dydd Mercher 6 Gorffennaf 2022 –
Dydd Mercher 13 Gorffennaf 2022 –
· Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Jane Dodds - Incwm Sylfaenol a'r newid i economi ddi-garbon (60 munud)
· Dadl y Pwyllgor Cyllid ar flaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24 (60 munud)
· Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig: Adnewyddu Rhaglen Ddileu TB Buchol Cymru (30 munud)
· Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
4 Adolygu Rheol Sefydlog 34 a chyfranogiad o bell
4.1 Darpariaethau Rheol Sefydlog 34
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnig y caniateir i Reolau Sefydlog 34.2-4 (Llywydd Dros Dro Dynodedig) fynd yn ddi-rym ar 1 Awst 2022 a bod Rheolau Sefydlog RhS 34.5-8 (Cadeirydd Dros Dro y Cyfarfodydd Llawn) yn cael eu hymgorffori yn Rheol Sefydlog 6.
4.2 Cyfranogi a phleidleisio o bell mewn Cyfarfodydd Llawn a phwyllgorau
Fel rhan o'i adolygiad o Reol Sefydlog 34 (gweithdrefnau brys), ystyriodd y Pwyllgor Busnes a ddylai cyfranogiad a phleidleisio o bell mewn Cyfarfodydd Llawn a chyfarfodydd pwyllgorau barhau y tu hwnt i bandemig Covid-19. Wrth wneud hynny, ystyriodd y Pwyllgor yr ymatebion a gafwyd gan Aelodau unigol, grwpiau pleidiau, Fforwm y Cadeiryddion a Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru. Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar y canlynol:
Gofynnodd y Pwyllgor Busnes hefyd am roi ystyriaeth bellach i'r angen parhaus am seibiannau technegol cyn y cyfnod pleidleisio a'r defnydd o PIN ar gyfer pleidleisio, a hefyd a ellid rhoi mwy o wybodaeth i grwpiau pleidiau o ran pa Aelodau sy'n bresennol i bleidleisio.